Home Page

Cwricwlwm i Gymru / Curriculum for Wales

Mae’r cwricwlwm wedi cael ei ddiwygio er mwyn codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng myfyrwyr, a galluogi pobl ifanc i fyw yn y gymdeithas fodern.

Ei nod yw paratoi plant i ffynnu mewn dyfodol lle mae sgiliau digidol, y gallu i addasu a chreadigedd yn hollbwysig, ac sydd wedi’i wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru.

 

Y Pedwar Diben

Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddilyn gan blant rhwng tair i 16 oed. Ni fydd cwricwlwm ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd; yn hytrach, bydd yn gontinwwm ar draws pob cam.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu i gyflawni pedwar diben allweddol. Ei nod yw cynhyrchu plant sydd, neu a fydd yn dod yn:

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
Unigolion iach, hyderus
Cyfranwyr mentrus, creadigol
Dinasyddion moesegol, gwybodus

 

Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd gan y Cwricwlwm i Gymru chwe maes dysgu.

1. Celfyddydau mynegiannol yn ymgorffori celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth. Bydd yn annog creadigrwydd a meddwl beirniadol, ac yn cynnwys perfformiad.

2. Dyniaethau yn ymgorffori daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Bydd yn seiliedig ar brofiadau dynol a bydd hefyd yn ymdrin â diwylliant Cymru.

3. Iechyd a lles: mae hyn yn cwmpasu agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywyd, gan helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles a dysgu sut i reoli dylanwadau cymdeithasol. Bydd yn cynnwys Addysg Gorfforol.

4. Gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymgorffori bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg, a dylunio a thechnoleg.

5. Mathemateg a rhifedd: yn y blynyddoedd cynnar, bydd hyn yn golygu dysgu trwy chwarae. Mewn camau diweddarach, bydd yn cynnwys gweithio'n annibynnol ac ar y cyd ag eraill.

6. Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu: bydd hyn yn cynnwys Cymraeg a Saesneg, llenyddiaeth ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd addysgu Cymraeg yn dal yn orfodol.

 

Yn ogystal, bydd sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn cael eu hymgorffori ym mhob maes cwricwlwm

Cwricwlwm newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd e...

Please click to download the Curriculum for Wales brochure

Let's learn more about the new Curriculum for Wales:

The curriculum is being reformed in order to raise standards, reduce the attainment gap between students, and equip young people to lead ‘fulfilling personal, civic and professional lives’ in modern society.

It aims to prepare children to thrive in a future where digital skills, adaptability and creativity are crucial, and that is rooted in Welsh values and culture.

 

Four Key Purposes

The new Curriculum for Wales will be followed by children from the ages of three to 16. There won’t be separate curriculums for primary and secondary schools; rather, it will be a continuum across all stages.

The new Curriculum for Wales has been developed to fulfil four key purposes. It aims to produce children who are, or will become:

  • Ambitious, capable learners
  • Healthy, confident individuals
  • Enterprising, creative contributors
  • Ethical, informed citizens
  •  

Areas of learning
The Curriculum for Wales will have six areas of learning.

1. Expressive arts incorporating art, dance, drama, film and digital media, and music. It will encourage creativity and critical thinking, and include performance.

2. Humanities incorporating geography, history, RE, business studies and social studies. It will be based on human experiences and will also cover Welsh culture.

3. Health and wellbeing: this covers the physical, psychological, emotional and social aspects of life, helping students make informed decisions about their health and wellbeing and learn how to manage social influences. It will include PE.

4. Science and technology incorporating biology, chemistry, physics, computer science, and design and technology.

5. Mathematics and numeracy: in the early years, this will involve learning through play. In later stages, it will include working both independently and collaboratively with others.

6. Languages, literacy and communication: this will include Welsh and English, literature and international languages. Welsh language teaching will still be compulsory.

In addition, literacy, numeracy and digital skills will be embedded throughout all curriculum areas

A new curriculum for Wales

This is an exciting time for the young people of Wales. A new Curriculum for Wales is coming that will enthuse learners from 3 to 16, giving them the foundat...

Fframwaith ar gyfer dysgu plant 3 - 7 oed

Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd / Literacy and Numeracy Framework

CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) /RVE (Religion, Values and Ethics)