7.9.23 | Croesawyd pawb i'r cyfarfod. Llongyfarchiadau mawr i'r pwyllgor ar gael eu hethol. Penderfynwyd cael cystadleuaeth pwyllgor er mwyn cynllunio bathodyn ar gyfer y pwyllgor. Mae angen i bawb ddod a'i cynllun at Mrs Evans a Mrs Bonsall erbyn y cyfarfod nesaf plis. |
21.9.23 | Penderfynwyd bod angen swyddi ar gyfer y pwyllgor fel bod pob peth yn cael ei wneud yn iawn mewn cyfarfodydd. Cafodd pawb y cyfle i gynnig am swyddi a phleidleisiwyd ar gadeirydd ac ysgrifenyddion ar y pwyllgor. |
6.10.23 | Cyhoeddwyd Wiliam fel cadeirydd Senedd Saron. Roedd yn falch iawn i dderbyn y rol. Cyhoeddwyd Leo a Olivia yn ysgrifenyddion. Doedd pawb ddim wedi dod a chynlluniau bathodynau eto felly rhoddwyd tan wythnos nesaf i gaelcyfrannu. Trafodwyd y defnydd o'r gawell tu allan. Roedd Mrs deSchoolmeester wedi dweud yn y gwasanaeth bod y dosbarth gyda'r presenoldeb uchaf yn cael amser chwarae dydd Gwener yn ychwanegol yn y gawell. Cyfrifoldeb Senedd Saron yw i gasglu'r data o'r swyddfa ac wedyn cyhoeddi i bob dosbarth pwy sydd yn cael chwarae ar yr iard amser chwarae olaf. *Angen i Mrs Evans archebu llyfrau nodiadau ar gyfer pob dosbarth erbyn wythnos nesaf. |
19.10.23 | *llyfrau wedi eu dosbarthu - angen gofyn i'r plant ofyn i'r athrawon dosbarth am amser i drafod o fewn y dosbarthiadau.
|
* Creu fideo byr i gyflwyno gwaith Senedd Saron i'r llywodraethwyr. Son am waith Senedd Saron o fewn yr ysgol. | |
25.1.24 | *Gwnaetd arolwg o'r ardal allannol - Plant yn trafod yn dda a nodi yn eu llyfrau llefydd i'w gwella yn ardal allannol yr ysgol. |
22,2,24 | Trafodaethau brwd am syniadau gwella'r ysgol. * Gwnaeth yr aelodau o flwyddyn 6 drafod y trefniadau y gwnaethon nhw gyda Mrs deSchoolmeester i wobrwyo plant yn fisol am bresenoldeb. Cyflwynwyd Pari Presenoldeb i'r aelodau. *Soniodd Mrs Evans ei bod wedi bod yn cysylltu gyda ysgrifenyddes Jonathan Edwards ac mae wedi cytuno dod mewn i'r ysgol i drafod ei waith gyda'r Senedd. *Er mwyn symud ymlaen gyda'r prosiect 'Gwisg Ysgol' roedd eisiau creu a chynllunio nodyn i'w ddanfon at deuluoedd i ofyn am hen wisg ysgol. Gwaeth Amber a Mia gymryd cyfrifoldeb am ddosbarthu'r nodyn i'r dosbarthiadau ar ol casglu gwybodaeth am nifer y teuluoedd oddi wrth Miss Davies. *Llythyr i ofyn am wisgoedd ysgol i fynd allan fore Gwener. *Yn dilyn ebost wrth Mam plentyn ym mlwyddyn 1 cafwyd reilen newydd i ddal y dillad ysgol yn drefnus. |
26.2.24 | *Reilen wedi cyrraedd yr ysgol. Mae angen hangers nawr i ddechrau trefnu'r gwisgoedd. |
07.03.24 | Hangers wedi cyrraedd yr ysgol yn barod i drefnu'r dillad. Plant yn pwyllgor yn trefnu'r dillad yn ddyddiol. |
11.04.24 | Dillad ysgol bron yn barod, Mae angen reilen newydd a mwy o hangers er mwyn gosod y dillad i gyd yn drefnus. Eisiau gofyn i Mrs Evans gwallt melyn am reilen a gofyn i'r rheini am hangers. Trefnu lluniau'r aelodau i roiar yr arddangosfa Senedd Saron. Dechrau trafod syniadau ar gyfer gwella'r ysgol. Bl2- Angen mynd nol a gofyn i'r plant pa syniadau sydd gyda nhw i helpu Ysgol Saron. Bl3- Gem twister/ Uno/ Tedis yn y Cwtsh Cynnes/ Teganau deinosoriaid/ Blodau/ Toes Ty bach bl 3 yn rhy fach - y drws rhy fach Bl4- Teganau o offer i chwarae ar y buarth/ Cysgod tu allan i flwyddyn 4 Bl5- Hopscotch ar fuarth bl 3-6 / mwy o gysgod Bl6- Bwrdd sgorio / Amserelen chwaraeon/ Net am y gol / Pethau ar yr iard a'r cae / Pel rhwyd yn y gawell / Peniau newydd yn y dosbarth - peniau / Darllen ar yr iard / to i'r gawell
Ffair Fai Ysgol Saron Syniadau ar gyfer codi arian i gyfrannu tuag at syniadau i wella Ysgol Saron 1. Bwrdd darts - Sgor uchaf yn cael £5 2. Taflu bagiau ffa i fwced - Os mae y bagiau ffa i gyd i mewn ennill bag bach o losin. 3. Elin i wneud 'portraits' am bris 4. Enwi'r tedi 5. Cystadleuaeth celf 6. Stondyn gwisg ysgol 7. 'pin the tail on the donkey' gyda gwisg ysgol Ysgol Saron. |
23.5.24 | Hoffai Mrs Evans ddiolch i bawb fu'n gweithio yn galed yn y Ffair Haf! Diolch yn arbennig i Amber am ddod a Tedi anferth mewn ac i Mia am ddod a Tedi Mawr i mewn. Gwnaeth 52 person ymgeisio am y Tedi anferth ac roedd 31 wedi ymgeisio am y tedi mawr. (£41.50) Gwnaeth y darts £21 o elw ac rydyn yn ansicr faint o elw gwnaeth y losin. Diolch i Elis, Heath a Wiliam am gynnal y Darts. Diolch i Evie-Mai, Elis, Madi a Mia am gynnal y gystadleuaeth tedis. Diolch i Evie-Mai, Mia a Hari am helpu gyda chystadleuaeth y losin. Noson arbennig elw tua £62.50
Diolch i bawb. |
18.6.24 | Gwnaeth Senedd Saron adrodd nol i'r llywodraethwyr ar eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Gwnaethant eu gwaith yn wych. https://new.express.adobe.com/webpage/LZz2dkROS8jMW
|
27.6.24 | Cam nesaf ar gyfer Senedd Saron???? Dymuniadau ar gyfer gwaith Senedd Saron flwyddyn nesaf? Hari - Mwy o bethau gwahanol yn y gist. Elis - Siart Ymddygiad - Plant carden goch i ddal y garden amser chwarae. Evie -Mai - Lola - Rota i ddefnyddio offer chwarae. Heath - Meddwl am drip haf newydd - rhywle arall ar wahan i Fferm Ffoli. Leo - Siart Ymddygiad - Carden Aur a chael carden da ac os ti'n colli carden dylet ti aros ar aur. Isla - Amser rhydd - cael siart i gofnodi os chi wedi cael e. Mia - Amser rhydd - creu carden amser rhydd - i gael amser ychwanegol Amber - Amser chwarae - twb o adnoddau ar yr iard i chwarae. Wiliam - Dydd Gwener - Rota Cawell yn fyw teg. Pan bod plant yn cicio'r bel dros y ffens -newid y rheol i 5 gwaith cyn colli'r bel.
|