Home Page

Cofnodion Cyfarfodydd

7.9.23Croesawyd pawb i'r cyfarfod. Llongyfarchiadau mawr i'r pwyllgor ar gael eu hethol. Penderfynwyd cael cystadleuaeth pwyllgor er mwyn cynllunio bathodyn ar gyfer y pwyllgor. Mae angen i bawb ddod a'i cynllun at Mrs Evans a Mrs Bonsall erbyn y cyfarfod nesaf plis. 
21.9.23Penderfynwyd bod angen swyddi ar gyfer y pwyllgor fel bod pob peth yn cael ei wneud yn iawn mewn cyfarfodydd. Cafodd pawb y cyfle i gynnig am swyddi a phleidleisiwyd ar gadeirydd ac ysgrifenyddion ar y pwyllgor.
6.10.23

Cyhoeddwyd Wiliam fel cadeirydd Senedd Saron. Roedd yn falch iawn i dderbyn y rol.

Cyhoeddwyd Leo a Olivia yn ysgrifenyddion.

Doedd pawb ddim wedi dod a chynlluniau bathodynau eto felly rhoddwyd tan wythnos nesaf i gaelcyfrannu. 

Trafodwyd y defnydd o'r gawell tu allan. Roedd Mrs deSchoolmeester wedi dweud yn y gwasanaeth bod y dosbarth gyda'r presenoldeb uchaf yn cael amser chwarae dydd Gwener yn ychwanegol yn y gawell. Cyfrifoldeb Senedd Saron yw i gasglu'r data o'r swyddfa ac wedyn cyhoeddi i bob dosbarth pwy sydd yn cael chwarae ar yr iard amser chwarae olaf. 

*Angen i Mrs Evans archebu llyfrau nodiadau ar gyfer pob dosbarth erbyn wythnos nesaf. 

19.10.23

*llyfrau wedi eu dosbarthu - angen gofyn i'r plant ofyn i'r athrawon dosbarth am amser i drafod o fewn y dosbarthiadau. 

 

 * Creu fideo byr i gyflwyno gwaith Senedd Saron i'r llywodraethwyr. Son am waith Senedd Saron o fewn yr ysgol. 
25.1.24*Gwnaetd arolwg o'r ardal allannol - Plant yn trafod yn dda a nodi yn eu llyfrau llefydd i'w gwella yn ardal allannol yr ysgol. 
22,2,24

Trafodaethau brwd am syniadau gwella'r ysgol.

* Gwnaeth yr aelodau o flwyddyn 6 drafod y trefniadau y gwnaethon nhw gyda Mrs deSchoolmeester i wobrwyo plant yn fisol am bresenoldeb. Cyflwynwyd Pari Presenoldeb i'r aelodau. 

*Soniodd Mrs Evans ei bod wedi bod yn cysylltu gyda ysgrifenyddes Jonathan Edwards ac mae wedi cytuno dod mewn i'r ysgol i drafod ei waith gyda'r Senedd.

*Er mwyn symud ymlaen gyda'r prosiect 'Gwisg Ysgol' roedd eisiau creu a chynllunio nodyn i'w ddanfon at deuluoedd i ofyn am hen wisg ysgol. Gwaeth Amber a Mia gymryd cyfrifoldeb am ddosbarthu'r nodyn i'r dosbarthiadau ar ol casglu gwybodaeth am nifer y teuluoedd oddi wrth Miss Davies. 

*Llythyr i ofyn am wisgoedd ysgol i fynd allan fore Gwener. 

*Yn dilyn ebost wrth Mam plentyn ym mlwyddyn 1 cafwyd reilen newydd i ddal y dillad ysgol yn drefnus. 

26.2.24*Reilen wedi cyrraedd yr ysgol. Mae angen hangers nawr i ddechrau trefnu'r gwisgoedd. 
07.03.24Hangers wedi cyrraedd yr ysgol yn barod i drefnu'r dillad. Plant yn pwyllgor yn trefnu'r dillad yn ddyddiol. 
11.04.24

Dillad ysgol bron yn barod, Mae angen reilen newydd a mwy o hangers er mwyn gosod y dillad i gyd yn drefnus. Eisiau gofyn i Mrs Evans gwallt melyn am reilen a gofyn i'r rheini am hangers. 

Trefnu lluniau'r aelodau i roiar yr arddangosfa Senedd Saron.

Dechrau trafod syniadau ar gyfer gwella'r ysgol.

Bl2- Angen mynd nol a gofyn i'r plant pa syniadau sydd gyda nhw i helpu Ysgol Saron.

Bl3- Gem twister/ Uno/ Tedis yn y Cwtsh Cynnes/ Teganau deinosoriaid/ Blodau/ Toes 

       Ty bach bl 3 yn rhy fach - y drws rhy fach

Bl4- Teganau o offer i chwarae ar y buarth/ Cysgod tu allan i flwyddyn 4

Bl5- Hopscotch ar fuarth bl 3-6 / mwy o gysgod

Bl6- Bwrdd sgorio / Amserelen chwaraeon/ Net am y gol / Pethau ar yr iard a'r cae / Pel rhwyd yn y gawell / Peniau         

       newydd yn y dosbarth - peniau / Darllen ar yr iard / to i'r gawell 

 

 

Ffair Fai Ysgol Saron

Syniadau ar gyfer codi arian i gyfrannu tuag at syniadau i wella Ysgol Saron

1. Bwrdd darts - Sgor uchaf yn cael £5

2. Taflu bagiau ffa i fwced - Os mae y bagiau ffa i gyd i mewn ennill bag bach o losin.

3. Elin i wneud 'portraits' am bris

4. Enwi'r tedi

5. Cystadleuaeth celf 

6. Stondyn gwisg ysgol

7. 'pin the tail on the donkey' gyda gwisg ysgol Ysgol Saron.